Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (110)v2 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 yn ymwneud â chyflwyno cwestiynau llafar y Cynulliad (5 munud)
NDM5156 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12: Dyddiadau Cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2013; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiadau B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfennau ategol: |
4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NDM5147
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) David Rees (Aberafan) William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Cefnogwyd gan:
Eluned Parrott (Canol De Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn) Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru) Keith Davies (Llanelli) Elin Jones (Ceredigion) Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ar ôl ‘Ewropeaidd’ ychwanegu ‘, ond yn nodi bod angen ail-negodi telerau perthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd'.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru wedi methu’n barhaus â defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i ddatblygu economi gref a chynaliadwy yng Nghymru.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad oes neb o dan 55 oed yng Nghymru wedi cael pleidlais ar berthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i gynnig refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. |
5. Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Uwch-gynghrair Cymru (60 munud)
NDM5155 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Uwch Gynghrair Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2012.
Nodwch: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2013.
Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli 99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig.
2. Yn mynegi pryder nad oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.
3. Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid.
4. Yn cydnabod gwerth creu partneriaethau rhwng Llywodraeth Cymru a banciau’r stryd fawr, neu sefydliadau ariannol eraill, er mwyn darparu cyllid cyhoeddus i fusnesau lleol yn effeithiol ac yn effeithlon.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau’r cynigion sydd wedi’u hamlinellu yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ a, phan fo’n briodol, ystyried eu hymgorffori yng nghymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Mae arolwg Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ar gael yn:
http://www.fsb.org.uk/policy/rpu/wales/images/innovation%20strategy.pdf
Mae ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' ar gael yn:
http://www.welshconservatives.com/invest-wales
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:
‘a deall anghenion ariannol busnesau lleol’
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu wrth ddiffyg cynnydd Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg arian i fusnesau bach a chanolig.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny:
Yn nodi adolygiad Llywodraeth Cymru o argaeledd cyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac yn gresynu wrth y diffyg cynrychiolwyr o fusnesau bach a chanolig ar y panel cynghori.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n eiddo i’r cyhoedd fel rhan o’i hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle ac ystyried rhinweddau cynnig cyllid drwy farchnad Funding Circle, fel rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5158 Leanne Wood (Canol De Cymru):
Cymunedau Cymraeg – y dyfodol
Sicrhau parhad yr iaith Gymraeg. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2013